home

 

Oes gennych chi gwestiwn?

Os oes gennych gwestiwn am unrhyw beth ym Mharc Siopa Brychdyn a dydy'r ateb ddim i'w gael yma, anfonwch e-bost atom - gwnawn ein gorau i'ch ateb yn syth.

Gwasanaethau'r cwsmer

Cysylltu â rheolwr
Rheolwr y Parc Siopa yw Colin Gilligan a'r Rheolwr Gweithredol yw Karl Rigby. Cysylltwch â nhw ar 01244 534 354.

Nôl i'r brig

 

Faint o le sydd gennych yn eich maes parcio?
Mae gennym le parcio i fwy na 2,100 o geir AM DDIM
Cliciwch yma i weld sut i gyrraedd

Nôl i'r brig

Beth yw'r cysylltiadau ffordd agosaf?
Mae Parc Siopa Brychdyn oddi ar gyffordd 35A yr A55 a'r A5104 gerllaw Airbus.

Nôl i'r brig

Ydych chi'n llogi cadeiriau olwyn a sgwteri symud?
Ar hyn o bryd dydyn ni ddim yn cynnal cynllun Shopmobility ym Mharc Siopa Brychdyn, ond gallwch fenthyg cadeiriau olwyn yn rhad ac am ddim. Ffoniwch 01244 534 354 i gael gwybodaeth.

Nôl i'r brig

Beth ddylwn i ei wneud os byddaf yn colli fy mhlentyn?
Mae gennym gynllun diogelwch plant lle byddwn yn gweithio gyda'n siopau i geisio dod â phlant sydd ar goll yn ôl at eu rhieni neu'r bobl sy'n gofalu amdanynt. Gofynnwch i warchodwr unrhyw siop am gymorth.

Nôl i'r brig

Oes swyddi ar gael weithiau?
Mae'r gwerthwyr yn rhoi swyddi ar ein gwefan o bryd i'w gilydd. Cliciwch yma i weld y rhestr ddiweddaraf

Nôl i'r brig

Ymhle alla i fwyta neu yfed?
Mill House Inn, McDonalds, Tesco a BHS.

Nôl i'r brig

Ymhle alla i newid fy mabi?
Mae lle addas ar gael yn McDonalds, Millhouse Inn, Tesco a Boots.

Nôl i'r brig

Ymhle mae'r toiledau?
Mae cyfleusterau ar gael yn y siopau yma: McDonalds, Millhouse Inn, Tesco a Boots.

Nôl i'r brig

Rwyf wedi colli rhywbeth!
Os ydych wedi colli rhywbeth yn ystod eich ymweliad â Pharc Siopa Brychdyn cysylltwch â'n tîm Diogelwch ar 01244 534 354.

Cofiwch, byddwn yn gofyn am dystiolaeth i ddangos mai chi sydd berchen ar yr eitem er mwyn sicrhau ei fod yn mynd yn ôl i'r person cywir.

Nôl i'r brig

Gyda phwy ddylwn i gysylltu i gael manylion codi arian ar y parc?
Mae'n rhaid i chi fod yn elusen gofrestredig a llenwi ffurflen gais. Cysylltwch â Colin Gilligan os gwelwch yn dda ar 01244 534 354 neu e-bostiwch info@broughton-park.com i gael rhagor o wybodaeth.

Cliciwch yma os gwelwch yn dda

Nôl i'r brig

Gyda phwy ddylwn i gysylltu i drafod hysbysebu yn y parc?
Cysylltwch â Colin Gilligan os gwelwch yn dda ar 01244 534 354 neu e-bostiwch info@broughton-park.com i gael rhagor o wybodaeth.

Nôl i'r brig